CRONFA ARLOESI ACTIF
Roedd y Gronfa Arloesedd yn agored i sefydliadau, grwpiau cymunedol neu fusnesau a oedd am gydweithio a chynnig atebion arloesol i heriau lleol a rhanbarthol.
MAE'R GRONFA AR GAU. MAE'R GRONFA AR GAU. MAE'R GRONFA AR GAU. MAE'R GRONFA AR GAU. MAE'R GRONFA AR GAU.
MAE'R GRONFA AR GAU. MAE'R GRONFA AR GAU. MAE'R GRONFA AR GAU. MAE'R GRONFA AR GAU. MAE'R GRONFA AR GAU.
Beth yw'r Gronfa Arloesi?
Mae’r gronfa yn gronfa gomisiynu wedi’i thargedu, sydd ar gael gan Chwaraeon Cymru i alluogi Gogledd Cymru Actif (GCA) i gomisiynu sefydliadau i helpu i gyflawni ei blaenoriaethau strategol.
Nod y gronfa yw cefnogi strategaeth Gogledd Cymru Actif drwy brosiectau arloesol sydd â’r nod o ddiddymu anghydraddoldebau a galluogi mwy o bobl i gymryd rhan mewn gweithgarwch corfforol a chwaraeon.








Beth yw ffocws y Gronfa?
Ffocws yn y cylch ariannu yma yw plant a phobl ifanc sydd yn rhannu nodweddion gwarchodedig/ yn wynebu anghydraddoldebau, gan gynnwys:
Merched (hyd at 25 oed)
Plant a phobl ifanc anabl neu’r rhai â nam
Plant a phobl ifanc o gefndiroedd ethnig amrywiol
Plant a phobl ifanc sy’n byw mewn tlodi, boed yn dlodi trefol neu wledig
Plant a phobl ifanc o’r gymuned LHDTC+
Beth yw pwrpas y Gronfa?
Pwrpas y gronfa yw galluogi Gogledd Cymru Actif (GCA) i brofi a threialu ffyrdd newydd ac arloesol o gyflawni effaith leol a rhanbarthol trwy bartneriaethau cydweithredol. Bydd GCA yn cefnogi mudiadau all chwarae rhan wrth gefnogi gweithredu llwyddiannus o weledigaeth, strategaeth a meysydd blaenoriaeth GCA.
Pwy all chwarae rhan?
Mae’r gronfa yn agored i fentrau cymdeithasol, clybiau, cwmnïau buddiannau cymunedol, elusennau,
ymddiriedolaethau hamdden, sefydliadau addysgol, a sefydliadau’r sector cyhoeddus.
Rhaid cynnal gweithgareddau y tu allan i oriau cwricwlwm a rhaid dangos sut
mae’r prosiect yn elwa ac yn cynnwys y gymuned leol.
Beth ellir ei ariannu?
Mae cyllid sy’n amrywio o £2k – 100k ar gael ar gyfer prosiectau sydd wedi’u cynllunio i gynyddu
cyfranogiad pobl sy’n wynebu anghydraddoldebau yng Ngogledd Cymru.
Nid yw’r gronfa yn cynnwys cymorth ar gyfer costau cyfalaf na chostau cynhaliaeth.
Sut i wneud cais
MAE'R GRONFA AR AGOR!
Mae’r Gronfa ar agor o’r 4ydd o Fedi hyd 5pm ar y 27ain o Fedi 2023.
Mae 2 ffordd i anfon eich cais atom; trwy ffurflen ar-lein
NEU drwy fideo. Gallwch ddewis pa opsiwn isod.
- Peidiwch â phoeni gormod am yr arddull, mae angen i’r sain fod yn glir ac i allu clywed yr hyn rydych chi’n ei ddweud (felly ceisiwch osgoi ffilmio mewn mannau â gormod o sŵn cefndir).
- Sicrhewch nad yw’n hirach na deng munud o hyd, tua phum munud yn ddelfrydol.
- Sicrhewch eich bod yn cael caniatâd gan bawb sydd wedi’u cynnwys yn eich fideo.
- Bydd fideos yn cael eu hasesu yn union yr un ffordd â cheisiadau a wneir yn ysgrifenedig drwy’r ffurflen Datgan Diddordeb.
Lawr-lwythwch y canllawiau cyn cyflwyno eich cais. Bydd y templed cwestiynau yn ddefnyddiol i chi baratoi eich atebion os ydych yn gwneud cais drwy fideo.







