CYLLID
Helpu ein partneriaid a chlybiau i gael mynediad i’r cyllid maent ei angen i dyfu.
Edrychwch ar y cyfleoedd isod neu ewch i Chwaraeon Cymru yn uniongyrchol am fwy o wybodaeth.
Sut all cyllid eich helpu i dyfu
Dewch ag arbenigedd i mewn ac adeiladwch eich tîm
Prynwch neu huriwch offer
Gwella cyfleusterau presennol
Cyrraedd mwy o bobl drwy farchnata
A llawer mwy





CYFLEOEDD CYLLID PRESENNOL
ASTUDIAETH
ACHOS
Haf o sesiynau Ffitrwydd, Bwyd a Darllen gydag Aura Cymru
Mae ‘Ffitrwydd a Bwyd’, a grëwyd gan StreetGames, yn ymgyrch cenedlaethol sy’n defnyddio chwaraeon i greu newid cadarnhaol ym mywydau pobl ifanc sy’n wynebu anfantais. Y nod yw creu cyfleoedd gweithgarwch corfforol a hyrwyddo diet iach drwy ddarparu byrbrydau iach ar ddiwedd pob sesiwn actif.
Cynigodd Aura gyfle i’w cydweithwyr o fewn llyfrgelloedd y sir ychwanegu i’r sesiynau gan gynnig cyfleoedd darllen a chreadigol. Drwy gyfuno gweithgareddau llyfrgell a hamdden, nod y sesiynau yn y pendraw yw pwysleisio pwysigrwydd cadw meddyliau, yn ogystal â chyrff, yn iach.
Dros bum wythnos, fe wnaeth tîm Aura ymweld ag wyth lleoliad ar draws Sir y Fflint, gan weithio gyda dros ddeg o asiantaethaugwahanol i ddarparu sesiynau llawn hwyl. Fe wnaeth dros 5,400 o blant/pobl ifanc ymuno yr haf hwn a darparwyd 2,875 o brydau bwyd am ddim. Rhoddwyd dros 100 o brydau i loches digartref lleol hefyd. Yn ogystal, fe wnaeth y gwirfoddolwyr arbennig wneud gwaith gwych a chyfrannu 110 awr o’u hamser.
Cwestiynau Cyffredin
All unrhyw un ymgeisio am gyllid?
Bydd meini prawf cymhwysedd gan bob cyfle cyllido, a gallwch ddod o hyd iddynt drwy ddarllen y ddogfen sydd ynghlwm neu drwy gysylltu â ni.
Beth os nad oes cyllid ar gyfer yr hyn yr ydym ei angen?
Rydym wedi ymrwymo i sicrhau a dod o hyd i’r cyllid y mae ein cymuned ei angen. Os ydych wedi gweld angen neu gyfle, byddem wrth ein boddau yn clywed mwy fel y gallwn geisio gweithio arno gyda chi.
Pa mor hir mae'n ei gymryd i dderbyn cyllid?
Bydd amserlen wahanol gan bob cyfle cyllido ar gyfer gwneud penderfyniad a chyflwyno cyllid. Gwiriwch y ddogfen sydd ynghlwm neu cysylltwch â ni ac fe wnawn eich arwain trwyddo.
Beth os wyf angen help i ymgeisio am gyfle cyllido?
Nid yw creu cais cryf yn syml o gwbl. Os ydych yn meddwl eich bod angen ychydig o help, gallwch gysylltu â’ch partner awdurdod lleol neu anfon neges atom. Fe wnawn eich helpu gorau gallwn neu eich rhoi ar y trywydd iawn.