EIN PARTNERIAID
Mae Actif Gogledd Cymru yn bartneriaeth newydd ar y cyd sy’n cynnwys sefydliadau a darparwyr gweithgareddau sy’n gweithredu ar draws y rhanbarth. Ein nod ar y cyd yw cael pawb yn fwy actif a, thrwy hynny, creu Gogledd Cymru hapusach, iachach.
Cyd-greu dyfodol gwell























PARTNERIAID AWDURDOD LLEOL
Credwn y gall effaith gadarnhaol ddod o bob man. Dyna pam fod gennym bartneriaid o wahanol sectorau a rhannau o’n cymunedau i ysbrydoli newid cadarnhaol.
Cydlyniant cymunedol
Mae ein partneriaid yn y sector tai yn chwarae rôl ganolog i ddatblygu cydlyniant cymunedol ac i hyrwyddo cymunedau iachach, mwy actif.
Atal ac arbenigedd
Mae ein partneriaid yn y sector iechyd yn canolbwyntio ar atal yn ogystal â darparu arbenigedd i bobl o bob cefndir, ac ym mhob cam o’u siwrne i ffordd o fyw actif.
Y cenedlaethau mwyaf newydd a'r dyfodol
Mae ein partneriaid yn y sector addysg yn gweithio gyda’n hieuenctid bob dydd. Mae eu helpu i ddatblygu arferion actif, iach o oedran ifanc yn rhan hanfodol o’n gweledigaeth.
Gwirioneddol gynhwysol
Mae gennym bartneriaid arbenigol ac aelodau bwrdd sy’n helpu i lywio ein llong fel y gallwn fod yn hyderus ein bod yn darparu cyfleoedd gwirioneddol gynhwysol.