Cronfa Arloesi Actif
>
Cymryd Rhan

YMUNWCH Â NI

Sicrhewch fod eich llais yn cael ei glywed a chwaraewch eich rhan i greu Gogledd Cymru hapusach, iachach. Mae gennym uchelgeisiau mawr fydd angen partneriaid o bob math ac o bob sector a lleoliad.

Dewch i gyd-greu gyda ni…

ADEILADU CYMUNEDAU CRYF ADEILADU CYMUNEDAU CRYF ADEILADU CYMUNEDAU CRYF

ADEILADU CYMUNEDAU CRYF ADEILADU CYMUNEDAU CRYF ADEILADU CYMUNEDAU CRYF ADEILADU CYMUNEDAU CRYF

BETH MAE'N EI OLYGU I GYDWEITHIO EFO GOGLEDD CYMRU ACTIF?

Nid yw cydweithio gyda Gogledd Cymru Actif yn anodd ac nid oes angen gormod o amser. Mae’n ymwneud fwy â rhannu ein gweledigaeth ac ymrwymo i’r achos.

Mae pob partner yn chwarae rôl yn ei ffordd unigryw ei hun. Mae rhai yn cynnig gweithgareddau a chlybiau i’r cyhoedd, eraill yn hyrwyddo’r gweithgareddau hyn i unigolion fydd efallai angen help. Mae rhai yn darparu arian, nawdd ac arbenigedd ac mae rhai yn darparu cipolwg defnyddiol i’n helpu i wneud penderfyniadau gwell i’r rhanbarth cyfan. Ymunwch â’r mudiad a darganfyddwch sut allwch chi chwarae rôl hanfodol ar gyfer eich rhanbarth.

SGIDIAU SYMYD

Mae Sgidiau Symud yn symudiad i newid y ffordd rydym yn meddwl am ddillad gwaith. Rydym yn gofyn i arweinwyr i roi caniatâd i’w staff wisgo sgidiau symud i’r gwaith a’u hannog drwy arwain y ffordd.

Lawrlwythwch yr asedau cyfryngau cymdeithasol isod ar ôl i chi ymuno.

Y TEULU ACTIF

Cwestiynau Cyffredin

Ymrwymiad i gael mwy o bobl yn actif yng ngogledd Cymru a pharodrwydd i gymryd rhan mewn arolygon a sesiynau adborth o bryd i’w gilydd. Mewn gwirionedd, bydd hyn yn amrywio o fusnes i fusnes felly dewch i siarad gyda ni a byddwn yn cydweithio i ganfod y datrysiad gorau i chi.

Wrth gwrs. Rydym eisiau i bawb yng ngogledd Cymru wybod am Actif felly byddwn yn eich annog i rannu’r newyddion da gyda chymaint o bobl â phosib. Rhowch wybod os hoffech unrhyw asedau i’ch helpu.

Gall unrhyw un gydweithio. Mae’n bwysig ein bod yn adlewyrchu’r rhanbarth cyfan a dyna pam fod gennym eisoes grŵp mor amrywiol o bartneriaid. P’un a ydych yn fach, yn fawr, yn newydd neu wedi hen sefydlu, byddem wrth ein boddau’n sgwrsio sut allwch chi effeithio’r rhai o’ch cwmpas i gael pobl yn fwy actif.

Dim problem. Y peth pwysicaf yw eich bod yn awyddus i gydweithio a chymryd rhan. Mae rôl i bawb, er nad ydych yn gweld hynny eto. Dewch i siarad gyda ni a gallwn archwilio’r ffyrdd y gallwch helpu.