EIN GWELEDIGAETH “PAWB YNG NGOGLEDD CYMRU YN FWY ACTIF, GAN FYW BYWYDAU IACHACH A HAPUSACH.” Ein nod yw cael mwy o effaith drwy gydweithio er budd pobl Gogledd Cymru a’r cymunedau yr ydym yn byw ynddynt.
Mae hyn yn golygu hyrwyddo a chefnogi clybiau a darparwyr amrywiol, trio a pheilota ffyrdd newydd o weithio a sicrhau cyllid ychwanegol hirdymor ar gyfer y rhanbarth, a bod yn llais pwerus ac unedig i Ogledd Cymru.
Mae ein cymunedau yn cynnwys pobl sy’n profi lefelau amrywiol o anghydraddoldeb iechyd a llesiant, sy’n arwain at wahaniaethau mawr mewn lefelau gweithgarwch corfforol ar draws y rhanbarth sy’n effeithio ar iechyd a hapusrwydd pobl.
Dim ond os fydd pawb yn ffynnu fydd ein cymunedau lleol, ynghyd â chymuned Gogledd Cymru ar y cyd, yn ffynnu. Wrth i ni gydweithio, byddwn yn elwa gyda’n gilydd.
Mae ein strategaeth wedi’i datblygu gan weithio gydag ystod eang o bartneriaid a chymunedau ac mae’n nodi ein gweledigaeth, ein cenhadaeth a’n blaenoriaethau ar gyfer cyflawni Gogledd Cymru fwy actif. Gallwch ddarllen y strategaeth lawn, neu fersiwn gryno isod
Dyma sut ydym yn gwireddu’r weledigaeth…
Gwyliwch ein ffilm fer i ddarganfod mwy am ein gwaith a’r manteision o fod yn actif yng Ngogledd Cymru